Talu ar-lein

Gallwch dalu drwy gymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein – gallwch wneud hyn drwy ddewis yr opsiwn ‘talu drwy gyfrif banc’.

Bydd gofyn i chi fewngofnodi i’ch cyfrif banc ar-lein, neu’ch cyfrif banc symudol, i gymeradwyo’ch taliad.

Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif.

Fel arall, gallwch wneud taliad yn llawn ar-lein drwy ddefnyddio cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol. Bydd ffi na ellir ei had-dalu yn cael ei chodi os byddwch yn defnyddio cerdyn debyd neu gredyd corfforaethol. Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.

Bydd eich taliad yn cael ei dderbyn ar y dyddiad y byddwch yn ei wneud, ac nid y dyddiad y mae’n cyrraedd cyfrif CThEF (gan gynnwys ar wyliau banc a phenwythnosau).

Bydd yn rhaid i chi sicrhau bod y manylion a nodwch yn cyd-fynd â’r rheini sydd gan eich banc neu ddarparwr y cerdyn. Er enghraifft, dylai’r cyfeiriad bilio gyd-fynd â’r cyfeiriad y mae’ch cerdyn wedi’i gofrestru iddo ar hyn o bryd.